Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt … Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Gyda Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth

11th June 2021 @ 11:00 - 12:00

 

Bydd y sesiwn hon yn cynnig cyflwyniad byr i’r cyrsiau gradd amrywiol ym meysydd gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol sy’n cael eu cynnig gan Brifysgol Aberystwyth. Rhoddir sylw i’r amrywiaeth o fodiwlau diddorol y mae modd eu hastudio, y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg helaeth sydd ar gael a hefyd y cyfleoedd allgyrsiol eang, gan gynnwys y Cynllun Cyfnewid Seneddol a hefyd y gemau Argyfwng poblogaidd.

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys sgwrs gyda dau o gyn-fyfyrwyr yr adran. Bydd cyfle i’w holi ynglŷn â’r math o yrfaoedd maent wedi’u datblygu ar ôl graddio a sut y mae’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt wrth astudio gwleidyddiaeth wedi bod o gymorth.

 

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Dr Huw Lewis

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 11, 12 a 13. Addas i unrhyw fyfyrwyr sydd a diddordeb mewn astudio gwleidyddiaeth neu gysylltiadau rhyngwladol yn y brifysgol.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
11th June 2021
Time:
11:00 - 12:00
Event Categories:
, , ,